AMDANOM NI
Rydym yn fusnes teuluol wedi ei leoli yng nghanol Pen LlÅ·n. Mae ein siop fferm a’n caffi yn cynnig profiad unigryw sy’n dathlu’r gorau o gynnyrch a lletygarwch Cymreig.
Rydym yn ymfalchïo mewn gweithio’n agos gyda ffermwyr a chynhyrchwyr lleol i gynnig y cynhwysion mwyaf ffres a mwyaf blasus i’n cwsmeriaid.
Yn ein siop fferm, rydym yn gwerthu amrywiaeth o lysiau tymhorol, ffrwythau, cynnyrch llaeth a chigoedd sy’n dod o ffermydd Cymreig lleol.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion crefft gan gynnwys cawsiau wedi’u gwneud â llaw, siytni, jamiau a bwydydd wedi eu pobi sy’n arddangos y gorau o draddodiadau coginio Cymreig.
Yn ein caffi clyd, cewch fwynhau blas o Gymru gyda’n bwydlen brecwast a chinio ffres o’r fferm. Mae bob dim yn cael ei goginio yma gan ddefnyddio cynhwysion lleol, o’r brecwast Cymreig clasurol i’r brechdanau swmpus, cawl a salad.
Mae gennym ddewis da o gacennau, sgons a thoesau cartref sy’n berffaith os ydych chi awydd trît bach canol dydd neu de prynhawn. Credwn mai’r ffordd orau o fwynhau bwyd da yw drwy fod mewn cwmni da.
Mae ein caffi yn gynnes a chysurus sy’n berffaith ar gyfer cyfarfod gyda ffrindiau, mwynhau munud i ymlacio neu gynllunio’ch antur nesaf ym Mhen LlÅ·n.
Rydym yn falch iawn o gynnig gwasanaeth cynnes a chyfeillgar ac yn gobeithio bod pob ymweliad â’n siop fferm a’n caffi yn teimlo fel eich bod yn ymweld â chartref eich ffrind.
​Diolch am edrych ar ein gwefan. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n siop fferm a’n caffi yn fuan!


